Bwyta ac Yfed

Yma yn y Nag’s Head rydym yn frwdfrydig iawn am ein bwyd ac yn defnyddio cynnyrch lleol o’r ansawdd  gorau. Mae’r rhan fwyaf o’n bwyd wedi’i baratoi’n ffres a’i goginio o’r ‘Pridd i’r Plât ‘ gan ein Prif Gogydd Andy Millard a’i dîm brwd yn ei cegin. Mae ein bwydlen yn amrywiol ac yn dymhorol, gan apelio at chwaeth pawb ac yn cynnwys Prydau Arbennig ein Cogydd, hoff “glasuron tafarn” traddodiadol a chinio rhost ar y Sul. Rydym yn darparu rhywbeth at ddant pawb ac ar gyfer chwaeth newidiol y byd sydd ohoni, gan gynnwys bwydlenni plant, figan, llysieuol ac opsiynau di-glwten.  Gan fod y bwyd yn cael ei baratoi a’i goginio yn ein cegin ni yma, gallwn fel arfer darparu ar gyfer y rhan fwyaf o anghenion dietegol.

Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig cwrw go iawn a gynhyrchir yn lleol. Daw ein cwrw o’r micro fragdai lleol rhagorol ac maent o ansawdd uchel iawn. Rydym yn cynnig amrywiaeth o winoedd a gwirodydd o ansawdd da i gyd-fynd a’n bwydlen. O’r tap mae gennym hefyd lager Carling a San Miguel, ynghyd â Guinness a seidr drafft Sharp’s Orchard a Thatchers. Gallwch hefyd  ddewis amrywiaeth o goffi a wnaed o’r ffa coffi gorau wedi malu’n ffres.