Croeso i’r Nag’s Head

Bwyta
Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau bwyta, gan gynnwys Llysieuol, Figan a di-glwten – pob un ohonynt wedi’u rhestru ar ein bwydlen.

Cysgu
Arhoswch gyda ni yn un o’n 4 ystafell gwely a brecwast i fwynhau’r cyfan sydd gan yr ardal leol i’w gynnig.

Yfed
Rydym yn falch o fedru gweini detholiad eang o gwrw, gwinoedd a gwirodydd, diodydd ysgafn a choffi yma yn y Nags Head.
Mae tafarn y Nag’s Head Inn yn fusnes teuluol, sy’n cynnig ystafelloedd cyfforddus a bwyd Gastro bendigedig, ar lan afon. Mae’n gyfoethog o hanes ac wedi ei leoli yn yr hudolus Cwmcych ger Rhaeadr Cenarth dim ond 10 milltir o Fynyddoedd y Preseli a Bae Ceredigion gyda’i thraethau euraidd godidog.
Cewch Groeso Cymreig cynhesaf o’r eiliad y camwch trwy’r drws, boed hynny i fwynhau pryd o fwyd cartref blasus gyda theulu a ffrindiau, i flasu un o’n cwrw lleol hyfryd wrth danllwyth o dân coed neu G&T bach yn ein gardd gwrw braf wrth lan yr afon.
Mae ein hystafelloedd ensuite yn cynnig encil croesawus neu fan cychwyn perffaith i archwilio hyfrydwch Gorllewin Cymru.
Mae ein hadolygiadau’n dweud …
Cig eidion Cymreig blasus i ginio dydd Sul
Bwyd tafarn gwych, awyrgylch hyfryd
Bwyd, gwasanaeth a chroeso o’r radd flaenaf
Bwyd Figan a Llysieuol anhygoel
Bar & Bwyty



Ein Hystafelloedd
Mae ein llety gwely a brecwast 4* yn cynnwys 4 ystafell wely en-suite o ansawdd uchel yn edrych allan dros afon Cuch a sydd wedi’u cynllunio’n gartrefol a chysurus. Rydym yn darparu noson gyfforddus o gwsg i chi yn ogystal â brecwast Cymraeg cartref blasus.

Cysylltu â ni
Cysylltu â ni heddiw!