Telerau ac Amodau

Tafarn y Nag’s Head

Diolch am ddewis aros yn y Nag’s Head. Edrychwn ymlaen at eich croesawu. Wrth sicrhau ystafell(oedd) yn y dafarn, rydych yn dod i gytundeb â ni. Darllenwch ein telerau ac amodau isod.

Talu

Byddwn yn cymryd manylion cardiau credyd dros y ffôn neu ar lein i gadarnhau a sicrhau ystafell(oedd) cadw. Rhaid ichi dalu am yr ystafell(oedd) pan fyddwch yn barod i adael. Rydym yn derbyn taliad drwy gerdyn credyd, cerdyn debyd neu arian parod.

Prisiau

Mae’r pris yn cynnwys llety a brecwast.

Canslo

Os bydd angen ichi ganslo, gofynnwn yn garedig ichi roi dau ddiwrnod o leiaf o rybudd inni. Os byddwch yn canslo’n hwyr, mae gennym yr hawl i godi’r tâl llawn fel y gwelwn orau.

Dim ysmygu

Ni chaniateir ysmygu yn unman yn adeilad tafarn y Nag’s Head. Nodwch y gofynnir i unrhyw westeion sy’n tramgwyddo yn erbyn y rheol hon adael yn syth – ac fe allant fod yn atebol dros dalu am lanhau’r ystafell yn broffesiynol , ac am unrhyw nosweithiau a drefnwyd i aros ond nad arhoswyd oherwydd inni ofyn iddynt adael yn gynnar.

Gall gwesteion ysmygu y tu allan i’r adeilad, a gofynnwn yn garedig ichi roi bonion eich sigaréts yn y blychau penodedig.

Cyrraedd

Bydd eich llety ar gael ichi ar ôl 2.00pm ar y dyddiad y trefnwyd ichi gyrraedd, oni bai ichi drefnu fel arall. Rhoddwch wybod inni os byddwch yn bwriadu cyrraedd ar ôl 9.00yh.

Gadael

Dylech adael eich llety erbyn 10.30am ar y diwrnod y trefnwyd ichi adael, oni bai ichi drefnu fel arall.

Difrod

Y chi sy’n gyfrifol am unrhyw ddifrod, gan gynnwys unrhyw beth a dorrir, sy’n digwydd yn y llety. Rhowch wybod inni yn syth. Fel arfer, ni fyddwn yn codi tâl am fân bethau a dorrir.

Cwynion 

Dylech roi gwybod inni am unrhyw gwynion a allai fod gennych cyn gynted ag y bo modd. Yn achos unrhyw fethiant o ran yr offer, yr eiddo, neu’r  cyfleusterau, byddwn yn ymdrin â’r rhain cyn gynted ag y gallwn. Nid yw’r rheolwyr yn gyfrifol am unrhyw anghyfleustra a achoswyd. Caiff yr holl offer a’r eiddo eu cynnal a’u cadw yn rheolaidd.