Datganiad Hygyrchedd

 Cyflwyniad

Tafarn wledig yn Sir Benfro ar gyrion pentref Aber-cuch (Abercych) yw’r Nag’s Head .

Parcio

Mae gennym faes parcio mawr wrth ochr yr adeilad – tua 20 medr ar droed  o’r brif fynedfa.  Mae’n faes parcio graean ag arwyneb lled anwastad. Fodd bynnag, mae’n bosibl parcio ar y ffordd gyferbyn â’r brif fynedfa, neu gall gwesteion gael eu gollwng yn union o flaen y brif fynedfa, ac mae’r arwyneb yn wastad heb unrhyw risiau.

Mynediad i’r mannau cyhoeddus
Y dafarn/yr ystafell fwyta

Mae’r mynediad i’r dafarn yn wastad, ond mae un stepen fach i un o’r ystafelloedd sy’n arwain at y toiledau. Nid oes gennym doiled i’r anabl ar hyn o bryd.

Yr ystafelloedd gwely ac ymolchi: cyffredinol

Mae gennym dair ystafell wely ar y llawr cyntaf. Gellir cyrraedd y rhain drwy risiau yn y dafarn neu rai allanol, sydd â chanllaw i’w gydio ynddo. Mae ein hystafelloedd ymolchi ensuite yn eithaf mawr, ac mae stepen fach i’r blwch cawod. Gallwn ddarparu dillad gwely analergaidd (hynny yw clustogau/duvets heb blu) pe byddai eu hangen.

Pwyntiau cyffredinol

  • Mae’r perchnogion yn byw yn yr adeilad ac felly maen nhw ar gael 24 awr y dydd.
    Mae gennym drefniadau ar waith i sicrhau bod gwesteion ag anableddau neu heb anableddau yn gallu gadael yr adeilad yn ddiogel mewn argyfwng.
  • Mae ein pen-cogyddion yn gallu paratoi prydau ar gyfer gwesteion sydd â gofynion deietegol penodol.
  • Mae gennym bolisi dim ysmygu drwy’r adeilad. Gall gwesteion ysmygu yn y mannau allanol sydd dan do.

Cyn cyrraedd

I gael manylion llawn a mapiau ar sut i gyrraedd y dafarn, ewch i’r adran ‘Sut i ddod o hyd inni’ sydd ar waelod pob tudalen ar y wefan.

Er ein bod yn ceisio bodloni anghenion pob un o’n gwesteion, mae yna rai nodweddion am y dafarn a allai amharu ar fynediad pobl sydd â chyfyngiadau o ran symud, gan fod y dafarn yn hen iawn.

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu os bydd angen unrhyw gymorth arnoch, mae croeso ichi ffonio 01239 841200 neu e-bostio info@nagsheadabercych.co.uk

Edrychwn ymlaen at eich croesawu.