Yfed

[smartslider3 slider=7]

Yfed

Mae’r bar wedi’i rannu yn ystafelloed clyd â stôf llosgi coed yn nwy o’r ystafelloedd. Galwch heibio i dorri’ch syched a bwrw’ch blinder ar ôl mynd am dro neu seiclo, neu dewch draw i ymlacio gyda diod i ddarllen y papur newydd – a does dim rhaid ichi adael eich ci y tu fas yn yr oerfel ychwaith.

Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gweini cwrw go iawn da. Mae ein gwahanol fathau o gwrw’n dod o fragdai bach annibynnol yn Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, ac maen nhw o ansawdd uchel iawn.

Rydyn ni’n cynnig gwinoedd o ansawdd da, gan gynnwys gwin o winllannau yng Nghymru  sydd wedi ennill gwobrau. Ni gallai hi roi cyngor ichi, pe dymunech hynny, ar ba winoedd i’w hyfed gyda’ch ffrindiau wrth y tân, neu ar ba winoedd fyddai’n gweddu orau i’ch bwyd.

Mae gennym hefyd Carling a San Miguel o’r gasgen, gan gynnwys Guinness, Sharp’s Orchard a Thatchers.