Hanes

[smartslider3 slider=5]

Hanes

[siteorigin_widget class=”SiteOrigin_Widget_Image_Widget”][/siteorigin_widget]

Mae’n debyg bod hanes y Nags Head yn dyddio yn ôl i 1807, ac efallai 1784 hyd yn oed, pan ddaethpwyd o hyd i gofnod bod John James yn rhedeg tafarn ym Mhont-seli. Byddai’r dafarn wedi bod yn eithaf bach ar y pryd – bar ar un ochr i’r drws ffrynt a pharlwr ar yr ochr arall. Yn y dyddiau hynny, byddai’r ‘Tai Tafarnau’ yn cael eu defnyddio am amryw o bethau. Gwyddom mai gefail leol oedd y dafarn am sawl blwyddyn. Ac er syndod, bu’r Nags Head yn llys am dros hanner cant o flynyddoedd o 1850 hyd at 1908. Tybed faint o chwarae teg a roddwyd ar ôl cwpl o beintiau y dyddiau hynny!

Mae’r dyfyniad sydd ar arwydd y dafarn, sef “Bydd gall fel sarph, diniwed fel colomen” yn deillio o’r Beibl yn wreiddiol. Dechreuodd y dyfyniad gael ei ddefnyddio ar yr arwydd pan oedd y dafarn dan arweiniad Josiah Evans o 1871 hyd at 1917. Roedd Josiah yn adnabyddus fel gof yn yr ardal hefyd. Cofnodwyd iddo ddyfeisio aradr haearn a enillodd wobr  (Pont-seli rhif 7). Cafodd yr aradr ei gynllunio i aredig tir serth, ac fe’i  defnyddiwyd yn helaeth yn America ac Awstralia. Bellach, mae enghraifft ohono ar gael yn Amgueddfa Werin Cymru.

Gwyddom i David Morris redeg y dafarn tan 1955. David oedd y perchennog a laddodd y llygoden fawr enwog wrth balu tatws i’r wyneb un noson yn 1950. Fel mae’n digwydd, nid llygoden fawr oedd yr anifail mewn gwirionedd, ond coipw, sef math o lygoden sy’n byw yn y dŵr ac ar y tir, ac sy’n hanu o Dde America. Am flynyddoedd lawer, rhoddwyd y lle blaenaf i’r ‘llygoden fawr’ yn y dafarn, ond yn anffodus mae’r llygoden fawr wedi mynd ar goll! Rhowch wybod inni os gwelwch chi unrhyw olwg ohoni tra byddwch chi yma!

Pan brynodd Alan Jones y Nags Head ym mis Awst 1993, fe brynodd y siop a’r gweithdy a oedd drws nesaf, er mwyn cynnwys bwyty a bragdy bach – er, mae’n debyg bod cofnod i gwrw gael ei fragu yn y dafarn yn 1918. Enw’r cwrw a gafodd ei fragu yn y bragdy bach oedd ‘Old Emrys’ ar ôl un o drigolion hynaf Aber-cuch.

Tafarnwr trwyddedig y Nags Head o 1996 tan 2016 oedd Samantha Jamieson. O dan arweiniad Sam cafodd y dafarn ei gwella i gynnwys man chwarae i blant, gardd fach ar lan yr afon, a llety gwely a brecwast.

Prynodd Steve a Tracy Miller y Nag’s Head ym mis Gorffennaf 2016 a gwnaed nifer o welliannau sylweddol i’r adeilad, i’r bwyty ac i’r bwyd sy’n cael ei weini yn y dafarn.

Prynodd Dewi a Jacqui Davies y Nag’s Head a daethant yn berchnogion presennol ym mis Rhagfyr 2019. Mae ganddynt gynlluniau mewn pryd i ddod â chwrw “Old Emrys” yn ôl a oedd mor boblogaidd gyda’r brodorion ac i gynyddu’r nifer o ystafelloedd B&B i ateb y galw cynyddol am “fwytai gydag ystafelloedd” da. Maent hefyd am barhau i gynrychioli hanes y dafarn yn ogystal ag i gynrychioli y gymuned leol gymaint â phosibl gyda phethau cofiadwy sy’n cydnabod y traddodiadau fel pysgota mewn cwrwgl, ffermio a gofaint. Y newyddion “hanesyddol” mawr yw bod yr enwog “Llygoden Mawr Abercych” wedi dychwelyd i’r Nags Head yn 2019, a gellir ei weld yn ei holl ogoniant yn y bar ystafell gefn.

Cliciwch yma i weld fideo sy’n amlygu prydferthwch yr ardal leol a phentref hyfryd Abercych, yn adrodd hanes dychweliad y lygoden fawr o’r enw “Rhodri Fawr”! Mae ein diolch yn fawr i ddynion busnes lleol Gareth Jones, Meredith George a’r tîm yn Tinopolis am eu cefnogaeth wrth gynhyrchu’r fideo hynod hwn ar ran Heno @ S4C.