Hafan

The Nag’s Head Inn

Perchenogion y Nag’s Head yw gŵr a gwraig, Dewi & Jacqui Davies a fydd yn eich cyfarch gyda’r croeso cynhesaf o’r eiliad y byddwch yn camu i mewn.

Rydym yn cynnig Gwely a Brecwast gydag ystafelloedd cyfforddus, croesawgar, bwyd cartref traddodiadol, cwrw go iawn lleol o safon, a dewis rhagorol o winoedd a gwirodydd.

Ar ôl treulio’ch diwrnod yn archwilio’r cyffiniau godidog, gallwch orffen eich diwrnod â dewis o fwyd rhagorol oddi ar fwydlen dymhorol ein cogydd, gan ddefnyddio cynnyrch lleol o safon uchel mewn ffordd gyffrous. Ymlaciwch yn un o’n ystafelloedd cyfforddus, ensuite ac yna llenwch eich bol â brecwast llawn Cymraeg cyn llawenydd y diwrnod o’ch blaen.

Yn eistedd ar afon Cych sy’n rhedeg drwy’r hudol Cwm Cych ger Rhaeadrau Cenarth, mae’r Nags’s Head wedi ei leoli yn ddelfrydol ar ffin y 3 sir harddaf yng Nghymru – Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Dyma baradwys i gerddwyr a seiclwyr. O’r fan hon gallwch archwilio’r coetir gogoneddus, a troeon arbennig yn dafliad carreg o’n drws. Mae’r afonydd heddychlon Cych a Teifi, a’r corsydd wrth y warchodfa natur Cilgerran yn darparu’r amgylchedd delfrydol ar gyfer gweld y doreth o fywyd gwyllt. Mae golygfeydd syfrdanol o fynyddoedd hudol y Preseli, llwybr arfordirol godidog Sir Benfro, a’r traethau anhygoel ar hyd arfordir Sir Benfro a Cheredigion yn daith fer i ffwrdd, heb anghofio am hanes diddorol y cestyll hynafol yng Nghastellnewydd Emlyn, Cilgerran ac Aberteifi.

Petai eich bod yn hoff iawn o gerdded, beicio, pysgota neu ddim ond ymlacio mewn amgylchoedd godidog, dyma’r sylfaen ddelfrydol, a byddwn yn sicrhau ein bod yn gofalu amdanoch o ddifrif yn ystod eich arhosiad.