Cysgu
Mae gennym dair ystafell ensuite sydd wedi’u haddurno’n chwaethus. Rydyn ni am ichi ymlacio a theimlo’n arbennig pan fyddwch chi’n dod i aros gyda ni. Does dim byd gwell na gwely cyfforddus ar ddiwedd y dydd, sy’n cynnwys dillad gwely moethus, a duvet a chlustogau meddal.
Mae gan bob un o’r ystafelloedd gyfleusterau gwneud te/coffi, teledu, sychwr gwallt, a mynediad am ddim i’r rhyngrwyd. Mae ystafell ymolchi fawr, sy’n cynnwys cawod, ym mhob ystafell. Cewch dyweli moethus a nwyddau ymolchi sy’n gyfan gwbl naturiol ac organig o gwmni lleol yng Nghastellnewydd Emlyn, sef ‘Conscious Skincare’.
Rydyn ni wedi rhoi enwau cymeriadau o gainc gyntaf chwedlau’r Mabinogi ar y tair ystafell – Arawn, Pwyll a Rhiannon. Chwedl Pwyll Pendefig Dyfed yw’r gainc gyntaf sy’n sôn am Annwn yr arallfyd, byd paradwysaidd sy’n gysylltiedig a chartref y Tylwyth Teg yn y traddodiad Cymreig cynnar. Ac yng Nghlyn Cuch (Cwm Cych) y mae’r mynediad i’r arallfyd hwn, wrth Raeadr Ffynhonnau (a elwir yn Rhaeadr Ffynnone yn lleol). Efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn darllen y chwedl tra byddwch yn aros yma.
Prisau
Pris yr ystafell am noson (gan gynnwys brecwast)
Dau berson: £95.00
Un person: £68.00
Nodwch: ni chaniateir ysmygu yn yr ystafelloedd
Cyrraedd a gadael
Cyrraedd ar ôl 4yp
Ymadael erbyn 10.00yb
Cysylltwch â ni os hoffech wneud trefniadau arbennig o ran amserau cyrraedd a gadael.
Brecwast
Rydyn ni’n defnyddio cynhwysion lleol ar gyfer brecwast. Gallwch ddewis o ffrwythau ffres, gan gynnwys iogyrt Cymreig, a’n ‘brecwast Cymreig llawn’.
Polisi canslo
Gofynnwn ichi roi rhybudd o 7 diwrnod o leiaf (dau ddiwrnod o leiaf sydd yn y telerau ac amodau) os bydd angen ichi ganslo. Ffoniwch 01239 841200.
Os byddwch yn canslo’n hwyr, mae gennym yr hawl i godi tâl fel y gwelwn orau. I ddarllen ein telerau ac amodau, cliciwch yma.
Anifieliaid anwes
Rydyn ni’n croesawu cŵn sy’n ymddwyn yn dda i ardaloedd y bar. Ond, yn anffodus ni chaniateir anifeiliaid anwes yn yr ystafell fwyta na’r ystafelloedd gwely.